R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cronfeydd yr UE yn cyrraedd y cymunedau y maent wedi’u bwriadu i’w helpu? OAQ(4)0456(FIN)
2. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth ddyrannu'r gyllideb Cymunedau a Threchu Tlodi? OAQ(4)0459(FIN)
3. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod grantiau yn cael eu rheoli'n effeithiol? OAQ(4)0464(FIN)
4. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa asesiad ariannol o gynigion arfaethedig i uno awdurdodau lleol a wnaed gan Lywodraeth Cymru wrth lunio'r gyllideb ddrafft? OAQ(4)0461(FIN)
5. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y dyraniad cyffredinol o’r gyllideb i'r portffolio Addysg a Sgiliau? OAQ(4)0463(FIN)
6. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin ag ariannu drwy gynyddrannau treth? OAQ(4)0448(FIN)
7. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Budd i'r Gymuned Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0453(FIN)
8. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ymgynghori â phobl Cymru wrth baratoi ar gyfer cyllideb 2015-16? OAQ(4)0457(FIN)
9. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar bwysigrwydd cyllid Ewropeaidd i orllewin Cymru? OAQ(4)0462(FIN)W
10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa flaenoriaethau a gaiff eu hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? OAQ(4)0465(FIN)
11. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar unrhyw addasiadau i’r dyraniad adrannol y mae'n disgwyl eu gwneud yn y flwyddyn ariannol gyfredol? OAQ(4)0449(FIN)
12. Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa ystyriaeth a roddwyd i anghenion canolbarth Cymru wrth baratoi'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2015-16? OAQ(4)0452(FIN)
13. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyfanswm y dyraniad cyffredinol o’r gyllideb i'r portffolio Cyfoeth Naturiol yn 2015-16? OAQ(4)0460(FIN)
14. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar lwyddiant Cymru o ran cael mynediad i gyllid yr UE? OAQ(4)0454(FIN)
15. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ba drafodaethau sydd wedi'u cynnal â Llywodraeth y DU ar ddiwygio fformiwla Barnett? OAQ(4)0458(FIN)
Gofyn i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar rôl y broses graffu o fewn llywodraeth leol? OAQ(4)0460(PS)
2. William Graham (Dwyrain De Cymru):A yw'r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi unrhyw ganllawiau i awdurdodau lleol ynghylch darparu gwasanaethau anstatudol? OAQ(4)0475(PS)
3. Jeff Cuthbert (Caerffili):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gydweithio rhwng gwasanaethau cyhoeddus yng Nghaerffili? OAQ(4)0465(PS)
4. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Faint o awdurdodau lleol sydd wedi dangos parodrwydd i archwilio'r syniad o uno gwirfoddol? OAQ(4)0473(PS)
5. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol? OAQ(4)0477(PS)
6. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0462(PS)
7. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddiwygio llywodraeth leol yn dilyn adroddiad Comisiwn Williams? OAQ(4)0472(PS)
8. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu merched rhag anffurfio organau cenhedlu benywod? OAQ(4)0474(PS)
9. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â cham-drin domestig ymysg cymunedau lleiafrifol yng Nghymru? OAQ(4)0461(PS)
10. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn a thrafodaethau diweddar y mae wedi'u cynnal ynghylch uno cynghorau? OAQ(4)0471(PS)W
11. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar doriadau i wasanaethau awdurdodau lleol? OAQ(4)0463(PS)
12. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar wasanaethau democrataidd y mae awdurdodau lleol yn eu darparu? OAQ(4)0469(PS)
13. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau y mae wedi'u cael gyda'r Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru yn sgil diwygiadau posibl i wasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0467(PS)
14. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y bydd diwygio llywodraeth leol yn effeithio ar ymgysylltiad democrataidd? OAQ(4)04678(PS)W
15. Lynne Neagle (Torfaen):Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y gyllideb ddrafft ar wasanaethau llywodraeth leol yn Nhorfaen? OAQ(4)0468(PS)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol wneud datganiad ar drafodaethau ynghylch creu awdurdodaeth ar wahân i Gymru? OAQ(4)0068(CG)W
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi cynnal ynglŷn ag oblygiadau dyfarniad y Goruchaf Lys ynglŷn â Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014? OAQ(4)0069(CG)W